Sut mae chwarae’n chwalu rhwystrau mewn cymunedau?

Cenedlaethau gwahanol, diwylliannau a chefndiroedd gwahanol, syniadau a chredoau gwahanol, galluoedd gwahanol – mae ein cymunedau’n amryweddol. Mae’r gwahaniaethau hyn i gyd yn agweddau gwych ar unrhyw gymuned; ond gallant godi muriau rhwng pobl â’i gilydd. Mae chwarae’n ffordd wych o chwalu rhwystrau, gan arwain at gymunedau’n dod at ei gilydd, a sicrhau ym mhawb yr ymdeimlad gwerthfawr hwnnw o berthyn. 

10 syniad o sut y gall eich lleoliad eiriol dros chwarae a chwalu rhwystrau o fewn eich cymuned: 

  1. Cynnal sioe dalent 
  2. Golchi ceir 
  3. Gwahodd gwahanol bobl i gymryd rhan 
  4. Ymweld â chartrefi ymddeol lleol 
  5. Cystadleuaeth bobi ‘Pobi Bant’ cymunedol  
  6. Boreau coffi a chacen 
  7. Helfa Drysor o fewn y gymuned 
  8. Diwrnodau garddio cymunedol 
  9. Diwrnod chwaraeon cymunedol – dewch â’r hwyl yn ôl i’r gymuned – rasys sachau, taflu’r weli, ras 3-coes 
  10. Nosweithiau cwis