Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos y Gwirfoddolwr  –  Mehefin 1-7, 2023 

Dathliad blynyddol o gyfraniad miliynau o bobl ar draws y DU sy’n gwirfoddoli yn eu cymunedau  yw Wythnos y Gwirfoddolwyr.. 

Ymunwch â ni eleni i ddathlu ac ysbrydoli! 

Bod yn Rhan 


Mis Pride Mehefin 1 – 30 June 2023 

Dathlir Mis Pride bob Mehefin yn deyrnged i’r sawl a oedd yn rhan o Derfysgoedd Stonewall. Felly dyma baratoi ein baneri enfys, gwasgaru’r llewych drosom i gyd a mynd ati i ymuno yn yr  hwyl. Â’i orymdeithiau, gwyliau a chyngherddau’n digwydd ar hyd a lled y byd, mae bob tro ryw ffordd i chi fod yn rhan o  hyn – yn ogystal â dysgu rhywfaint o hanes cymdeithasol pwysig wrth wneud. 


Mehefin 1, 2023 – Diwrnod Rhyngwladol y Plant,  Y Cenhedloedd Unedig  

Datganodd Y Gynhadledd Fyd-eang er Llesiant Plant yn Genefa, Y Swistir, yn 1925 y byddai Mehefin 1 yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant. Fe’i nodir fel arfer ag areithiau ar hawliau a llesiant plant, ynghyd â digwyddiadau eraill yn cynnwys plant – neu  wedi’u neilltuo ar eu  cyfer – er mwyn hyrwyddo’u lles ar hyd a lled y byd.