Arweiniad cyfoesol ar y Gwasanaeth Cynnig Gofal Plant Digidol Cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r arweiniad i Ddarparwyr Plant ar y Gwasanaeth Cynnig Gofal Plant Digidol Cenedlaethol. Cewch hyd i’r arweiniad cyfoesol yma.   

Fel y byddwch yn gwybod, mae gofyn i ddarparwyr gofal plant sy’n gweithio gyda’r Cynnig Gofal Plant gofrestru gyda’r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. Bydd tîm gofal plant eich awdurdod lleol yn eich hysbysu pan fydd yn amser cofrestru. 

  

Mae’r gwasanaeth digidol newydd yn rhoi cyfle i ddarparwyr gofal pant gofrestru i gyflenwi’r Cynnig drwy osod yn ei le gyfrif ar-lein y gellir ei reoli ‘ar eich hynt’. 

Mae’r manteision yn cynnwys: 

  

  • Un gwasanaeth cenedlaethol syml y gellir ei ddefnyddio gan bob awdurdod lleol   

      yng Nghymru 

  • Cyrchu ‘ar eich hynt’ drwy liniaduron, tabledi a ffonau symudol 
  • Gwasanaeth diogelu-data cwbl ddwyieithog 
  • Taliadau cyflym a rheolaidd, a delir yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru, yn achos 

  plant newydd. 

  

  

I baratoi, bydd angen i ddarparwyr gofal plant: 

  • Nodi un arweinydd i gofrestru eu lleoliad 
  • Dod o hyd i’w rhif SIN gydag AGC (gwelir hwn ar unrhyw ohebiaeth oddi wrth AGC neu ar eu cyfrif ar-lein) 
  • Gwybod eu rhif cofrestru gydag AGC (dyma fydd y rhif mwyaf diweddar os bu newid yn y strwythur rheoli) 
  • Cael cod post eu lleoliad cofrestredig wrth law 
  • Bod â manylion y cyfrif banc o’u heiddo lle dylid gwneud y taliadau. 

  

O Ionawr 2023 bydd pob rhiant sy’n dymuno cael oriau’r Cynnig Plant yn gwneud cais drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol, a gwneud y taliadau am yr oriau a ddarperir ar gyfer plant  hyn drwy’r gwasanaeth newydd. Bydd yn dal angen hawlio taliadau dros blant a oedd yn manteisio o’r Cynnig cyn Ionawr 2023 trwy broses eich Awdurdod Lleol.