Diwrnodau Ymwybyddiaeth 17/10/2022

Mis Hanes Pobl Dduon 2022

Hydref 1 – Hydref 31

Prif nodau Mis Hanes Pobl Dduon yw dathlu cyflawniadau a chyfraniadau pobl dduon, nid yn y DU yn unig, ond drwy’r byd cyfan, a hefyd i addysgu pawb ar hanes pobl dduon.

Os hoffech fod ynglŷn â hyn a darganfod mwy am hanes pobl dduon, fe welwch restr lawn o’r digwyddiadau a’r arddangosiadau sy’n digwydd ar hyd a lled y DU ar wefan swyddogol Mis Hanes Pobl Dduon www.blackhistorymonth.org.uk.

 

Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi 2022

Hydref 17

Adeiladu dyfodol cynaliadwy: Adeiladu dyfodol cynaliadwy: Dod at ein gilydd i roi diwedd ar dlodi a chamwahaniaethu.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi wedi ei nodi bob blwyddyn ers 1993, pan ddynododd Cynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig, drwy gyfrwng penderfyniad 47/196, ddynodi’r diwrnod hwn i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r angen i ddileu tlodi ac amddifadrwydd ym mhob gwlad.

Mwy o wybodaeth yma

 

Wythnos Siocled 2022

Hydref 17 – Hydref 23

A dyma ni, bawb ohonom sy’n ffoli ar siocled, yr un rydym oll wedi bod yn aros amdano, Wythnos Siocled! Yn dechrau ar y trydydd Dydd Llun y mis Hydref, mae Wythnos Siocled yn wythnos gyfan sydd wedi ei neilltuo ar gyfer Siocled. Pa siocled fyddwch chi’n ei gael i’w dathlu?