06.09.2024 |
Wythnos Addysg Oedolion Medi 9fed – 15fed
Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol-oes yng Nghymru, â thros 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn. Mae’r ymgyrch wedi ei gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.
Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd dros ddysgu a datblygu sgiliau ar gyfer bywyd a thrwy gydol oes. Bydd Wythnos Addysg Oedolion yn cyfeirio at gannoedd o gyrsiau, digwyddiadau, cyrsiau blasu, diwrnodau agored ac adnoddau dysgu sydd yn rhad ac am ddim and yn hygyrch i bawb.