30.08.2024 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Wythnos Dim Gwastraff Medi 2ail – 6ed
Mae wythnos Dim Gwastraff yn codi ymwybyddiaeth o effaith amgylcheddol gwastraff ac yn cefnogi busnesau, ysgolion a chartrefi gyda ffyrdd o leihau gwastraff.
- Beth am ddewis thema – rhai poblogaidd yn y gorffennol oedd gwastraff bwyd, pecynnu plastig a thrwsio.
- Gosodwch nod – a fyddwch chi’n lleihau eich gwastraff tirlenwi 10%? Dileu gwastraff bwyd am ddau ddiwrnod? Neu beth am fynd ati i herio eich hunain i wythnos hollol ddiwastraff?
- Meddyliwch am eich pam – PAM ydych chi eisiau cyrraedd eich nod? Bydd hyn yn eich cadw’n atebol i chi’ch hun ac ar y trywydd pan fydd pethau’n mynd yn anodd.
- Datgan eich her – dywedwch wrth gydweithwyr, ffrindiau ac aelodau’r teulu. Ewch i’r cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosDiwastraff
Mae Diwrnod Rhyngwladol Elusennau yn cael ei ddathlu ar y 5ed o Fedi.
Diwrnod Gwasanaethau Brys Medi’r 9fed 2024.
Diwrnod sy’n dathlu ac yn hyrwyddo’r 999 o arwyr sy’n gwasanaethu yn y gwasanaethau brys neu sydd wedi gwasanaethu; hyrwyddo gyrfaoedd yn y gwasanaethau brys a sgiliau achub bywyd i’r cyhoedd.
Eleni mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cymryd drosodd Plas Roald Dahl Bae Caerdydd ddydd Sadwrn 7 Medi 2024 ar gyfer digwyddiad MAWR y gwasanaethau brys.
Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant Medi 23ain – 29ain Medi 2024
Wedi’i sefydlu gan Gyflogwyr Cynhwysol, mae Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant (NIW) yn wythnos sy’n ymroddedig i ddathlu cynhwysiant a gweithredu i greu gweithleoedd cynhwysol. Thema eleni yw ‘Mae Effaith yn Bwysig’ ac mae’n amlygu pwysigrwydd bod yn gyflogwr cynhwysol.