11.10.2024 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Yr Wythnos Bobi Genedlaethol Hydref 14eg – 20fed
Mae’r Wythnos Bobi Genedlaethol 2024 yn ddathliad blynyddol sy’n annog pobl o bob oed a lefel sgiliau i gofleidio’r llawenydd sydd i’w gael wrth bobi. Mae’r digwyddiad wythnos o hyd hwn yn rhoi cyfle i bobyddion brwdfrydig roi cynnig ar ryseitiau newydd, rhannu eu creadigaethau, ac ysbrydoli eraill i ddarganfod pleserau nwyddau pobi- cartref.
Beth am roi cynnig ar bobi hwyl yn eich clwb yr wythnos hon?
Diwrnod Shwmae Su’mae 15fed Hydref 2024
Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn ddathliad blynyddol o’r Iaith Gymraeg, sy’n annog pobl i roi cynnig ar siarad Cymraeg gyda’u ffrindiau.
Bydd Wythnos Rhianta 2024 yn cael ei dathlu o Ddydd Llun, Hydref 21ain i Ddydd Gwener, Hydref 25ain.