29.11.2024 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Fyddech chi’n dathlu Diwrnod Gwirfoddoli Rhyngwladol yr wythnos hon?
Mae 5ed Rhagfyr yn ddiwrnod pan rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn deall y gwahaniaeth enfawr maen nhw’n ei wneud i’n clybiau. Mae dangos diolchgarwch i’n holl wirfoddolwyr yn hanfodol er mwyn iddyn nhw deimlo eu bod yn cael effaith bositif ar brofiadau’r plant.
Rydym ni’n gwerthfawrogi’n fawr rôl pob gwirfoddolwr sy’n cefnogi’r Clybiau Gofal Plant All-Ysgol, yn enwedig ein bwrdd ymddiriedolwyr, sydd yn rhoi eu hamser i gefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghlybiau Plant Cymru gan alluogi ein tîm i fod yno i gefnogi’r Sector Gofal Plant All-Ysgol. Diolch o galon i bob gwirfoddolwr – rydym yn ddiolchgar iawn am bopeth rydych chi’n eu gwneud.
Diwrnod Nirvana yw’r gwyliau Bwdhaidd sy’n coffáu’r diwrnod y dywedir bod Gautama Buddha (Shakyamuni) wedi cyrraedd goleuedigaeth, a elwir hefyd yn bodhi yn Sansgrit a Phali. Yn ôl y traddodiad, ar ôl blynyddoedd o arferion asgetig eithafol, penderfynodd Siddhartha eistedd o dan goeden beepal (neu goeden Bodhi) i fyfyrio, ac yno darganfod y gwraidd dioddefaint a’r ffordd i ryddhau ei hun ohono. Dathlir y diwrnod hwn ar 8 Rhagfyr.