30.08.2024 |
Bullies Out
Wedi’i sefydlu yn 2006, mae Bullies Out yn elusen wrth-fwlio, sy’n gweithio gydag unigolion, ysgolion, gweithleoedd a lleoliadau ieuenctid a chymunedol bob blwyddyn. Maent yn darparu cwnsela, gweithdai gwrth-fwlio a llesiant, hyfforddiant a chefnogaeth i filoedd o bobl.
Eu gweledigaeth yw grymuso ac ysbrydoli plant, pobl ifanc ac oedolion i oresgyn ymddygiad bwlio, cydnabod eu hunan-werth a chyflawni eu llawn botensial.
Cyrchwch adnoddau AM DDIM ar eu gwefan ar gyfer plant oed cynradd ac uwchradd.
Wythnos gwrth-fwlio, #chooserespect, fydd Tachwedd 11eg – 15fed 2024. Ond y mis Medi yma gallwch hefyd ymuno ag eraill i gymryd rhan yn ‘Camu i Fedi’ a gweithredu’n gryfach yn erbyn ymddygiad bwlio.
Ymunwch â’r her gan naill ai gerdded, rhedeg neu feicio tuag at wneud gwahaniaeth i fywydau’r rhai a effeithiwyd gan fwlio.
Gwybodaeth pellach:
BulliesOut – Hyfforddiant Gwrth-Fwlio, Ymwybyddiaeth a Chefnogaeth
Step into September – BulliesOut