08.11.2024 |
Diweddariad ar Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae AGC wedi diweddaru’r rhestr o wybodaeth sydd ei hangen i gofrestru eich Gwasanaeth Gofal Plant a Chwarae.
Lle bo’n berthnasol i’r cais, bydd AGC yn gofyn am y wybodaeth ganlynol fel rhan orfodol o’ch cais i gofrestru:
- Tystysgrif Rheoli Adeiladu
- Tystiolaeth bod caniatâd cynllunio wedi’i geisio neu ei fod yn ei le
- Tystysgrif EICR dyddiedig o fewn y 5 mlynedd diwethaf ar gyfer eiddo annomestig (nid oes angen hon ar warchodwyr plant)
- Tystysgrif system wresogi wedi’i dyddio yn y 12 mis diwethaf
- Asesiad risg tân
- Cynlluniau llawr gyda mesuriadau mewn metrau sgwâr
Sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau ar gyfer cofrestru gydag AGC ac os oes angen unrhyw gymorth arnoch gan ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant mae croeso i chi gysylltu â ni.
Rydym yn diweddaru ein proses gofrestru
221212-guide-registration-children-familes-wales-measure-2010-en.pdf