Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Par. – gwiriadau cymhwystra, dyddiad cau Hydref 7fed

Par. – gwiriadau cymhwystra Medi’r 9fed

Bydd teuluoedd sy’n cael eu hariannu gan y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn derbyn ebost gan Lywodraeth Cymru ar Fedi’r 9fed.

 

Bydd yr ebost yma’n gofyn iddynt gadarnhau a fu unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau.

Rhaid i deuluoedd ymateb naill ai drwy gadarnhau na fu newidiadau neu drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr ebost ar ddiweddaru o ran newidiadau. Mae angen cwblhau hyn erbyn Hydref 7fed 2024, neu gallai fod risg o ran eu cyllid.

 

Gofynnir ichi sicrhau bod y teuluoedd yr ydych yn gweithio gyda nhw yn ymwybodol o’r ebost hwn ac yn gweithredu cyn y dyddiad cau.

 

Am fwy o wybodaeth ar barhad gwiriadau cymhwystra Llywodraeth Cymru, ewch i’w gwefan drwy’r ddolen ganlynol yma.

 

Atgoffiad i gadarnhau Cytundebau Rhieni Newydd erbyn Wythnos Gyntaf y Tymor

Peidiwch ag anghofio! Mae angen i leoliadau Gofal Plant sy’n darparu gofal plant dry’r Cynnig Gofal Plant gadarnhau cytundebau rhieni newydd erbyn Dydd Iau wythnos 1af y tymor.

🔗 Cofrestrwch ar gyfer eich cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru

Am help a chyngor cysylltwch â’n llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628