30.08.2024 |
Cyfle Gofal Plant yng Nghastedd-nedd Port Talbot
Gyda chyffro y mae Timau’r Blynyddoedd Cynnar a Dechrau’n Deg Castell-nedd Port Talbot, mewn partneriaeth ag Ysgol Fabanod Gatholig St Joseph, yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan ddarparwr gofal plant profiadol i redeg Clwb ar ôl Ysgol yn yr ysgol.
Gellir cofrestru’r ystafell gofal plant ar gyfer tua 20 o blant 2-3 oed, bydd ar gael bob prynhawn ar eu cyfer hwy yn unig. Gellir datgelu ar gais costau rhent manwl sy’n daladwy’n unol â chytundeb fforddiadwy â’r esgobaeth.
Bydd disgwyl y canlynol gan y darparwr gofal plant llwyddiannus:
- Eu bod yn darparu Gofal Plant o ansawdd uchel
- Bod wedi cofrestru gyda’r AGC
- Darparu lleoedd y Cynnig Gofal Plant a lleoedd Dechrau’n Deg
- Yn cefnogi’n llwyddiannus plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol – ADY
- Gweithio’n agos gyda’r ysgol a’r llywodraethwyr , o fewn ethos yr ysgol Gatholig
- Darparu pontio esmwyth i feithrinfa’r ysgol
- Darparu amrediad o sesiynau gofal plant, yn cynnwys darpariaeth amlapiol, darpariaeth ar ôl ysgol a darpariaeth gwyliau
- Bod yn ymrwymedig i ddechrau cyflenwi cyn gynted â phosibl
Rydym yn chwilio am ddarparwyr sy’n gallu dangos eu bod â’r canlynol:
- Profiad o redeg darpariaethau gofal plant tebyg
- Adroddiadau arolygu boddhaol neu uwch gan yr AGC
- Cyfrifon ariannol cadarn
- Ethos o ddarparu gofal plant o safon, sy’n hygyrch a fforddiadwy
- Strwythur rheoli cryf ac effeithiol
- Ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu gofal plant sy’n canolbwyntio ar y gymuned
Gellir anfon negeseuon e-bost at Lisa Clement-Jones, Rheolwraig y Blynyddoedd Cynnar a Dechrau’n Deg l.clement-jones@npt.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw (05.09.2024)