27.09.2024 |
Plant yng Nghymru: Cymru Ifanc ar Daith – ymunwch â’r sgwrs FAWR
Gelwir ar blant a phobl ifanc 11-25 mlwydd oed o bob rhan o Gymru i ymuno â menter newydd Cymru Ifanc, o’r enw “Y Sgwrs Fawr”.
Trwy gydol yr Hydref 2024, bydd aelodau o dîm Plant yng Nghymru yn cynnal sesiynau i grwpiau o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru bob wythnos.
Bydd y prosiect hefyd yng Ngŵyl Cymru Ifanc yn Sparc, Caerdydd, i ddigwydd ar Dachwedd 16eg 2024. Yma, bydd grwpiau ffocws a thrafodaethau dwfn yn helpu i lunio’r negeseuon allweddol y bydd Plant yng Nghymru’n eu cario ymlaen pan fyddant yn cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth Cymru.