22.11.2024 |
Parhewch â’ch taith wrth-hiliaeth gyda chefnogaeth a hyfforddiant gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Am nifer dda a ddaeth i’r Clwb Hwb y mis yma! Hoffem ddiolch i Leon Andrews o DARPL am ei gyfraniad i’r sesiwn ac i’r holl fynychwyr a ymunodd â ni. Cafwyd adborth gwych gan y Clybiau a fynychodd:
- “Roedd Alex Clare a Leon yn wych gyda’u gwybodaeth ac mae wir wedi gwneud i mi feddwl am ddydd i ddydd”
- “Gweminar gefnogol a chlir iawn! Gwybodaeth ddefnyddiol sy’n berthnasol i ymarfer”
Bydd y rhai a oedd yn bresennol yn derbyn tystysgrif presenoldeb trwy e-bost, a bydd hyn yn rhoi tystiolaeth i chi o’ch dysgu a’ch datblygiad proffesiynol parhaus fel ymarferwr yn eich rôl.
Oherwydd y diddordeb yn y pwnc hwn a cheisiadau am gefnogaeth, byddwn yn cynnal sesiynau dilynol ychwanegol o fewn y misoedd nesaf. Bydd yr un nesaf ar Ionawr 13eg 2025 a’i nod fydd eich galluogi chi i adfyfyrio ar y 6 Egwyddor yn y Pecyn Cymorth Archwilio Gwrth- Hiliaeth mewn perthynas â’ch Clwb Gofal Plant All-Ysgol unigol.
Byddwn yn dechrau’r daith gydag Egwyddor 1: “Gweld pob dysgwr a’u teuluoedd o werth cyfartal. Meithrin perthnasoedd gyda’r plentyn a’r teulu” ac Egwyddor 2: “Cydnabod a pharchu gwahaniaeth”.
Bydd y Pecyn Cymorth Archwiliad yn fan cychwyn i chi symud ymlaen ar daith Wrth-hiliaeth lleoliadau.
Byddem hefyd wrth ein bodd pe gallech rannu eich arferion gyda ni ar gyfer ein Newyddlen, Y Bont. Cysylltwch â ni i drafod eich arferion fel y gallwn ddathlu a rhannu eich straeon llwyddiant. I ddiolch i chi, bydd clybiau sy’n rhannu eu harferion effeithiol yn Y Bont yn derbyn adnoddau amrywedd ar gyfer eu clwb.
Gelllir bwcio cyfres o ddysgu proffesiynol dyfnach, wedi ei anelu at Ymarferwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar, a’i datblygu gan DARPL a Cwlwm yma: cyfres 3 sesiwn i’w chynnal ar Ionawr 15, 22 a 29, 18:30-20:30 ar-lein drwy Zoom.