29.11.2024 |
Newyddlen Tymor yr Hydref Cwlwm: Cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae rhifyn yr Hydref o gylchlythyr Cwlwm yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig ar gyfer datblygiad plant, ac mae sicrhau bod pob plentyn, beth bynnag yw ei anghenion dysgu, yn cael y cyfle i ffynnu yn hanfodol er mwyn creu amgylcheddau cynhwysol a chefnogol. Yn ogystal â hyn, ceir gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae.