Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Grant i gefnogi cofrestru gydag AGC

A ydych chi’n Glwb Gofal Plant Allysgol cyfrwng- Cymraeg neu ddwyieithog sydd heb ei gofrestru?

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cynllun grant i gefnogi gyda chostau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais i gofrestru ag AGC ac ennill y cofrestriad.

Mae llawer o wahanol glybiau a gweithgareddau ar gael i blant a rhieni ddewis ohonynt. Mae bod y gofrestredig ag AGC yn cydnabod anghenion rhieni/gofalwyr sy’n gweithio/hyfforddi, drwy ganiatáu hyblygrwydd i agor yn hirach ac ymestyn i ofal cyn-ysgol, cofleidiol a gwyliau, a’un eu galluogi i gael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol fel Gofal Plant Di-dreth.

Mae cofrestru yn gwella eich enw da, drwy ennyn ffydd ynoch fel darparwyr gofal plant ysgogol ac o ansawdd.

Os ydych yn Glwb Gofal Plant All-Ysgol cyfrwng- Cymraeg neu ddwyieithog heb gofrestru a bod gennych ddiddordeb mewn cael eich cofrestru ag AGC, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol.

I wybod mwy