06.09.2024 |
Newyddlen Hydref 2024 DARPL
Wrth inni fyfyrio ar y terfysgoedd dros yr haf, rydym am ei gwneud yn glir bod Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn sefydliad gwrth-hiliol. Wrth i dymor newydd yr hydref ddechrau, hoffem eich cyfeirio at rai adnoddau dysgu ac ymarferol defnyddiol ar gyfer lleoliadau yma.
Mae Cwlwm, sy’n gweithio’n agos gyda DARPL, hefyd wedi lansio ein pecyn cymorth gwrth-hiliaeth ymarferol a’n cynllun gweithredu yn ddiweddar – lle gwych i ddechrau’r tymor i helpu, arwain a chefnogi eich datblygiad lleoliad cyfan yn sefydliad gwrth-hiliol. Cysylltwch â ni os hoffech i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs eich cefnogi gyda hyn. Cofrestrwch gyda DARPL a lawrlwythwch y pecyn cymorth yn yma