26.07.2024 |
Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig ynghylch Gofal Plant Di-dreth
Mae Martian Lewis yr Arbenigwr Arbed Arian yn ateb rhai cwestiynau cyffredin am gymorth ariannol i deuluoedd sydd angen Gofal Plant er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mynychu cyflogaeth a hyfforddiant.
Sicrhewch eich bod yn defnyddio misoedd yr haf i baratoi a lledaenu’r gair eich bod wedi cofrestru i alluogi rhieni i gael cymorth ariannol trwy’r cynllun Gofal Plant Di-dreth.
Mae gennym daflen y gallwch ei haddasu a’i hyrwyddo i’r teuluoedd sy’n mynychu eich clwb. Cam-12-Taflen-gofal-plant-di-dreth-i-rieni.docx (live.com)
Os nad ydych yn siŵr sut i gofrestru gallwch gysylltu â ni am gymorth. Gall ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant eich helpu i sicrhau eich bod yn cefnogi teuluoedd i fanteisio ar fenter y Llywodraeth hon.