Hyfforddiant mewn Gwaith Chwarae wedi’i ariannu’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg

Hyfforddiant mewn Gwaith Chwarae wedi’i ariannu’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae bwrsariaeth o hyd at £300 y dysgwr hefyd ar gael i leoliadau cymwys sydd wedi ymrwymo i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu sydd eisoes wedi’u cofrestru gan AGC ac sy’n dymuno ehangu i ddarparu Gofal Plant All-ysgol.Bydd y fwrsariaeth yn cefnogi lleoliadau i dalu costau aelodau staff sy’n mynychu’r hyfforddiant a ariennir trwy brosiect CYMell. Bydd yn cael ei dalu i’r lleoliad i gyfrannu’n uniongyrchol at staff i fynychu hyfforddiant (neu ennill cymwysterau) y tu allan i’w horiau gwaith neu i dalu am staff i gyflenwi’r aelod hwnnw o staff os yw hyn o fewn oriau gwaith.

 

Dyfarniad Lefel 3 mewn Pontio (ATPW)

Bydd y cwrs ATPW yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar eich staff i weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad Gwaith Chwarae. Bydd hefyd yn rhoi cymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig i ddysgwyr a all wella rhagolygon a datblygiad eu gyrfa. Bydd gan ddysgwyr fynediad i ystod o adnoddau dysgu, sesiynau ar-lein, ac aseiniadau, i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg!

 

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisoes â Lefel 3 mewn Gofal Plant, Gwaith Ieuenctid, Ysgolion Coedwig neu Gymorth Addysgu. Mae’n adeiladu ar y  wybodaeth sydd gennych eisoes ac yn eich helpu i ddeall Egwyddorion, damcaniaethau a dulliau Gwaith Chwarae. Bydd y cwrs yn eich cymhwyso fel Gweithiwr Chwarae Lefel 3 ar gyfer pob lleoliad, a chyda’r profiad angenrheidiol bydd hefyd yn eich galluogi i gael eich cyflogi fel Arweinydd Chwarae, a fydd yn rheoli Clwb All-Ysgol.

 

Cysylltwch â’ch Swyddog  Datblygu Busnesau Gofal Plant i ddod i wybod mwy.