Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Tlodi Plant – Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau

Darparu cyllid i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant.  

Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond mae llawer o’r mecanweithiau ar gyfer newid yn nwylo Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae camau y gellir eu cymryd yng Nghymru i wella bywydau bob dydd a chanlyniadau i blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi.  Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc, waeth beth yw’r incwm teuluol, allu gwireddu eu hawliau.

 Gwyddom fod angen inni gynllunio sut i wneud hyn ar gyfer pobl sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i wahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail rhywedd, anabledd, ethnigrwydd neu rywioldeb.

Cronfa’r Grant Arloesedd a Chefnogi Cymunedau

Datblygwyd y grant tymor-byr hwn i ddarparu cyllid i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant. Mae’r grant ar gael i gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector (sy’n cynnwys grwpiau ffydd) yn eu hymdrechion i gyflawni’r canlynol:

  • Gwella gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i’r afael â thlodi plant, sy’n gysylltiedig ag un neu fwy o 5 amcan y Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 [HTML] | LLYW. CYMRU
  • Cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyfathrebu’n effeithiol, cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wrth ymateb i dlodi plant ar lefel ranbarthol, lleol neu gymunedol.

Dylid dangos sut y bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn tlodi yn elwa o’r trefniant cydweithio ychwanegol hwn a ariennir gan grant yn y tymor hwy.

Y cyfanswm sydd ar gael i’w ddosbarthu o dan y gronfa grant hon yw £900,000. Bydd yr arian grant yn cael ei rannu’n dair cronfa gwahanol:

  • Lefel gymunedol – hyd at £5,000 ar gael i bob cais llwyddiannus
  • Lefel leol – hyd at £25,000 ar gael i bob cais llwyddiannus
  • Lefel ranbarthol – hyd at £100,000 ar gael i bob cais llwyddiannus

Darllenwch y Nodyn Cyfarwyddyd ar wneud Cais am Grant sydd wedi’i atodi.

Os ydych chi’n gymwys ac â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant cwblhewch y ffurflen gais atodedig.  

 Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u cwblhau drwy e-bost i: GrantArloesiTlodiPlantAChefnogiCymunedau@llyw.cymru

Amserlen a gwybodaeth bellach

  • 14 Mehefin 2024: y cyfnod ymgeisio am grant yn agor.
  • 14 Gorffennaf 2024: y cyfnod ymgeisio am grant yn cau.
  • Wythnos yn dechrau 12 Awst 2024: anfon llythyr at yr ymgeiswyr ynghylch y canlyniad
  • Wythnos yn dechrau 19 Awst 2024: anfon y llythyrau dyfarnu grant

Ydych chi’n darparu Gofal Plant yn ystod gwyliau’r ysgol?

Mae Grantiau Gwyliau ar gael i ariannu teithiau rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr 2024 trwy Elusen Henry Smith.

Derbynnir ceisiadau 12 Gorffennaf – 19 Tachwedd 2024.

Cyn gwneud cais am unrhyw grant sicrhewch eich bod yn adolygu’r canllawiau, telerau ac amodau a gwybodaeth am y grant.

Crynodeb o’r canllawiau –

  • mae sefydliadau dielw ac elusennau i gyd yn gymwys i wneud cais.
  • Gellir gwneud ceisiadau am grantiau tuag at un daith, a allai fod yn daith undydd neu’n breswyl hirach hyd at saith diwrnod o hyd.
  • Dim ond i gefnogi plant 13 oed ac iau y mae grantiau ar gael.
  • Dyfernir grantiau am symiau rhwng £500 a £2,750 yn unig.

Grantiau Gwyliau i Blant –  – The Henry Smith Charity