26.07.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Rhaglen Grant Cymunedol y Meysydd Glo (Cymru)
Mae Rhaglen Grant Cymunedol y Meysydd Glo wedi buddsoddi dros £20 miliwn mewn prosiectau cymunedol a gwirfoddol ers 1999, gan dargedu’r cymunedau mwyaf anghenus. Rydym yn darparu grantiau (o £500 – £7,000 o refeniw neu gyfalaf) i sefydliadau cymunedol i gefnogi prosiectau yng nghymunedau maes glo Cymru sy’n creu swyddi, yn cynyddu sgiliau, yn gwella iechyd a lles, yn ehangu darpariaeth gofal plant neu’n datblygu cyfleusterau cymunedol. Mae Panel Asesu Grantiau Cymru yn cyfarfod bob chwarter.
Rhaid i brosiectau fod wedi’u lleoli mewn cymuned maes-glo gymwys neu rai sy’n gallu dangos buddion clir ac uniongyrchol i gymuned maes-glo cymwys. Rhaid i brosiectau fod o fudd i’r gymuned ehangach. Sylwch mai dim ond rhai wardiau o fewn yr Awdurdodau Lleol a restrir isod sy’n gymwys:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Sir Gaerfyrddin
- Merthyr Tudful
- Castell-nedd Port Talbot
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Abertawe
Wrecsam