30.08.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
What we fund — The Ashley Family Foundation Dyddiad Cau Medi 6ed 2024
Sefydliad Teulu Ashley
Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg Morgannwg, a Wrecsam
Dylid gwneud ceisiadau yn uniongyrchol trwy wefan Sefydliad y Teulu Ashley
- Maent o blaid ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm o dan £2m.
- Maent yn ariannu ceisiadau hyd at £10,000 ac sy’n cynrychioli o leiaf 10% o gyfanswm cost y prosiect.
- Maent yn ariannu cynigion refeniw, nid ceisiadau cyfalaf.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned gyda chyllid rhwng £300 a £20,000.
Gall ymgeiswyr wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes, neu i gefnogi sefydliadau i addasu i heriau newydd neu heriau’r dyfodol.
Mae’r grant hwn yn addas ar gyfer sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol ac mae’r grwpiau canlynol yn gymwys i wneud cais:
- mudiad gwirfoddol neu gymunedol
- elusen gofrestredig
- grŵp neu glwb â chyfansoddiad
- cwmni di-elw neu Gwmni Budd Cymunedol
- ysgol (cyhyd â bod eich prosiect o fudd ac yn cynnwys y cymunedau o amgylch yr ysgol)
- corff statudol (gan gynnwys
cynghorau tref, plwyf a
chymuned).
Peidiwch ag anghofio bod ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant yma i’ch cefnogi gyda’ch ceisiadau am gyllido, felly cofiwch gysylltu â ni.
Funding Wales
Funding Wales is a new funding search platform created by Third Sector Support Wales. Find funding for your charity, community group or social enterprise using their free online search engine.
You can search hundreds of grant and loan finance opportunities from local, national and international sources. From small grants to large capital projects they can help you find the funding you need.