06.09.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Tesco Stronger Starts
Mae Tesco Stronger Starts yn agored i elusennau a sefydliadau cymunedol wneud cais am grant o hyd at £1,500. Bob tri mis, mae tri achos da lleol yn cael eu dewis i fod yn y bleidlais cwsmer tocyn glas yn siopau Tesco ledled y DU
Rhoddir grantiau i ysgolion, sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol (gan gynnwys elusennau/cwmnïau cofrestredig)
Mae ceisiadau’n agored i bob achos da lleol ond ar hyn o bryd maent yn blaenoriaethu helpu prosiectau sy’n cefnogi diogelwch bwyd ac iechyd plant ac achosion da a enwebir gan siopau lleol.