19.09.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Medi 30ain 2024
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm yn darparu cymorth ariannol i brosiectau ysbrydoledig ledled Cymru.
Eleni mae’r Ymddiriedolaeth yn edrych i ariannu prosiectau sy’n cefnogi’r Celfyddydau, Cymunedol, yr Amgylchedd a Chwaraeon gyda grantiau o hyd at £5,000.00 ar gyfer prosiectau lleol a £10,000.00 ar gyfer prosiectau rhanbarthol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn:
- Sefydliadau Elusennol
- Sefydliadau Nid-er-Elw
- Sefydliadau Gwirfoddol â Chyfansoddiad Priodol
- Grwpiau gwirfoddol yn gweithio gydag awdurdodau lleol
- Grŵp o unrhyw oedran
Bydd ceisiadau grant yn cael eu hystyried ar gyfer Sefydliadau Elusennol ger cwmni Ford Motor Company Limited
- Pen-y-bont ar Ogwr (De)
Ystyrir ceisiadau grant gan y sefydliadau canlynol:
- Elusennau cofrestredig
- Ysgolion/CRhA (Ddim yn talu ffioedd, ysgolion gwladol yn unig. Annibynnol/preifat: ni fydd ysgolion sy’n talu ffioedd yn cael eu hystyried)
- Sefydliadau Nid-er-Elw (gan gynnwys clybiau a chymdeithasau bach)
Ystyrir ceisiadau grant at y dibenion a ganlyn:
- Cyfraniadau at brosiectau cyfalaf (e.e. adnewyddu)
- Eitemau gwariant cyfalaf (e.e. dodrefn/offer/cyfrifiaduron)
- Cyfraniad tuag at brynu cerbyd newydd (uchafswm grant o £3,000*)
Ystyrir ceisiadau am grant i gefnogi’r gweithgareddau canlynol:
- Gwaith sydd â manteision amlwg i’r gymuned/amgylchedd lleol
- Gweithio gyda phobl ifanc/plant
- Addysg/ysgolion (prif ffrwd)
- Anghenion addysgol arbennig
Pobl ag anableddau