01.11.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Grant Twf Sefydliadol Comic Relief
Mae’r grant hwn bellach ar agor. Nod y Grant Twf Sefydliadol yw rhoi’r cyfle i sefydliadau wneud newidiadau strategol a fydd yn cynyddu eu gwytnwch; er enghraifft: adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn perthynas ag ymwneud cymunedol eich sefydliad, cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd, sef datblygiad ffyrdd newydd o weithio o dan arweiniad y gymuned . Prif ffocws y grant yw’r sectorau canlynol:
– Plant a phobl ifanc – dysgu a datblygu; datblygiad plentyndod cynnar
– Cymuned – canolbwyntio ar wasanaethau lleol gan gynnwys banciau bwyd, ceginau cymunedol a mannau diogel i bobl agored i niwed
– Allgymorth a chefnogaeth teulu-ganolog – hanfodion ac anghenion sylfaenol / cymorth ariannol
– Digartrefedd
– Gwasanaethau iechyd meddwl
Dyddiad cau: 06/12/2024.
Mae WCVA yn cynnal sesiwn wybodaeth ar gyfer y grant hwn ar 12/11/2024 10yb – 12yh sy’n rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau. Dyma ddolen i gofrestru ar gyfer sesiwn wybodaeth: Sesiwn Wybodaeth Grant Twf Sefydliadol Comic Relief| Grant Twf Sefydliadol Comic Relief Sesiwn Gwybodaeth · Luma
Fel rhan o’r grant hwn mae’n hanfodol mesur yr effaith y mae’r gweithgareddau a gynhaliwch yn ei chael ar unigolion/cymunedau.