Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Grant Costau Project Plant mewn Angen y BBC

Beth yw Costau Prosiect?

 

Costau Prosiect yw’r rhai sy’n cefnogi amcanion a chyflenwi darn penodol o waith. Bydd y gwaith hwn fel arfer â therfyn amser, ac yn seiliedig ar set o weithgareddau diffiniedig.

Mae ein Ffrwd Ariannu Costau Prosiect ar gyfer elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr i’r rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Ein nod yw gwneud penderfyniadau cyflymach ar grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.

  • Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan y ffrwd Costau Prosiect – gallwch wneud cais unrhyw bryd.
  • Ni fyddwn yn ariannu unrhyw waith sydd eisoes wedi’i wneud, nac unrhyw gostau a gafwyd, cyn y dyddiad y byddwn yn eich hysbysu o’n penderfyniad.
  • Y cam cyntaf wrth wneud cais am Gostau Prosiect yw llenwi ffurflen Mynegi Diddordeb (EOI) fer ar-lein.
  • Defnyddiwch y ffurflen Mynegi Diddordeb i ddweud ychydig mwy wrthym am eich sefydliad, a’r gwaith rydych am i ni ei ariannu.
  • Byddwch yn gallu cyrchu’r ffurflen Mynegi Diddordeb yn eich cyfrif ar-lein pan fydd y ffrwd ariannu ar agor.
  • Os byddwn am gefnogi’r gwaith a amlinellwyd yn eich ffurflen Mynegi Diddordeb byddwn yn anfon ffurflen gais lawn atoch i’w chwblhau.

Ewch i’r wefan 

Am fwy o wybodaeth, gweler y ddolen yma.