Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Mae’r ymddiriedolaeth elusennol, Yapp Charitable Trust, yn rhoi grantiau ar gyfer costau rhedeg a chyflogau i elusennau cofrestredig bach yng Nghymru a Lloegr i helpu i gynnal eu gwaith presennol. Maent yn cynnig grantiau i elusennau cofrestredig yn unig gyda chyfanswm gwariant blynyddol o lai na £40,000. Ni fyddant yn ariannu gwaith nad yw’n canolbwyntio’n benodol ar un o’u grwpiau blaenoriaeth.

 

Dim ond costau  rhedeg y bydd  Yapp Charitable Trust eu hariannu.

 

Mae’r grantiau fel arfer am uchafswm o £3,000 y flwyddyn a byddant yn ariannu am hyd at dair blynedd.

 

Mae’r rhan fwyaf o’u grantiau am fwy na blwyddyn oherwydd eu bod yn hoffi ariannu anghenion parhaus.

 

Y ceisiadau sydd â’r siawns orau o lwyddo yw’r rhai sy’n adlewyrchu eu polisi dyfarnu grantiau.

 

Mae angen i ymgeiswyr sydd â diddordeb gwblhau gwiriad cymhwystra sydd i’w weld ar eu gwefan.