15.11.2024 |
Hwb enfawr i’r Sector Gofal Plant yng Nghymru: rhyddhad ardrethi i fusnesau bychain bellach yn barhaol
Ni fydd yn rhaid i safleoedd gofal plant cofrestredig dalu ardrethi busnes mwyach, gan arbed miliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Bydd hyn yn cynorthwyo’r sector gofal plant ac yn rhoi’r modd i fusnesau gynnig darpariaethau cynaliadwy o safon ledled Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA), Purnima Tanuku OBE:
“Yn dilyn lobïo gan NDNA Cymru a phartneriaid eraill Cwlwm, rydym yn falch iawn y bydd y rhyddhad ardrethi hwn gan Lywodraeth Cymru yn awr yn barhaol.”