Gwahoddiad ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr

Rydym yn derbyn enwebiadau ar gyfer aelodau newydd o’n Bwrdd ar hyn o’n bryd. Bydd eich ymwneud chi’n cryfhau ac yn ategu at sgiliau’r Bwrdd presennol, gan ein helpu i gyflawni ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth, a gwneud ein proffil yn amlycach i gynulleidfa ehangach.

 

Er mwyn dysgu mwy am rôl aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, ac i gyflwyno enwebiad, gofynnir ichi ddarllen ein disgrifiad swydd Ymddiriedolwr.

 

 

Digwyddiad ar-lein: Cyfarfod â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr

Ymunwch â ni am sgwrs anffurfiol, dowch i gyfarfod â’n hymddiriedolwyr presennol, gofynnwch inni unrhyw gwestiwn sydd gennych a dowch i wybod sut y gallwch gefnogi’r Sector Gofal Plant All-Ysgol.

 

Ar-lein | 11/09/2024 | 6.30yh – 7.30yh

 

Archebwch eich lle heddiw

https://www.clybiauplantcymru.org/cy/product/online-event-meet-our-board-of-trustees/

 

Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth o Gymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu, ac os ydych â phrofiad o Ofal Plant All-Ysgol, byddai’n dda iawn gennym glywed oddi wrthych.

 

I ddysgu mwy am Weledigaeth, Cenhadaeth a Nodau Strategol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ynghyd â’n gwerthoedd a’n hymddygiad, ewch i’r dudalen ‘amdanon ni’ ar ein gwefan.

 

Mae modd ymuno â chyfarfodydd chwarterol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar-lein, drwy Zoom neu Teams, ac rydym yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref, a fydd yn dal yn ddigwyddiad ar-lein unwaith eto eleni.

 

Os hoffech drafod y rôl, gofynnir ichi gysylltu â ni.