07.11.2024 |
Mae’r Gweinidog Dawn Bowden wedi canmol lleoliad gofal plant sy’n enghraifft o’r ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith
Mae Dawn Bowden,y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi ymweld â chlwb y Groes-Wen, sy’n aelod o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ac wedi’i leoli yn Ne Cymru. Gyda diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi cefnogi cymuned leol Groes-Wen, ac eraill ledled Cymru, i gael profiad uniongyrchol o fudd gofal plant cyfrwng-Cymraeg gan glwb sy’n gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Roedd yn bleser ymweld â Chlwb Groes Wen gyda Chlybiau Plant Cymru Kids’ Club heddiw a gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi helpu i hybu gofal plant all-ysgol cyfrwng-ymraeg o safon. Rwy’n gwybod pa mor bwysig yw gofal plant i deuluoedd, ac mae clybiau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol yn ein sector gofal plant, gan gefnogi plant i gymdeithasu, cael hwyl a thyfu wrth helpu rhieni ledled Cymru i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a theulu.”
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi datblygu eu prosiect ‘CYMell‘. Nod y prosiect yw atgyfnerthu’r iaith Gymraeg trwy Ofal Plant All-Ysgol o ansawdd, y tu allan i oriau ysgol, cyfoethogi plant trwy chwarae a chymdeithasu, tra hefyd yn darparu cefnogaeth hanfodol i’r economi ehangach. Gyda darpariaeth leol o’r gwasanaethau gofal plant hyn, mae’r prosiect yn darparu buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae hefyd yn cyfrannu at nifer o amcanion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r prosiect yn cefnogi lleoliadau Gofal Plant All-Ysgol Ysgol cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog nad ydynt wedi’u cofrestru i gofrestru gydag AGC. Bydd lleoliadau sydd wedi’u cofrestru ag AGC yn gallu gwella eu gwasanaethau a’u fforddiadwyedd wrth iddynt allu darparu Cynnig Gofal Plant Cymru a Gofal Plant Di-dreth.
Mae’r prosiect yn helpu darpar Weithwyr Chwarae i gael mynediad at hyfforddiant Gwaith Chwarae cyfrwng-Cymraeg/ wedi’i ariannu’n llawn. Ers y dechrau, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi dyfarnu 29 o grantiau i gefnogi lleoliadau i gofrestru gydag AGC, wedi darparu 208 o gymwysterau Gwaith Chwarae, ac wedi dyfarnu 163 o fwrsariaethau sy’n galluogi lleoliadau i dalu staff i fynychu’r hyfforddiant Gwaith Chwarae.
Dywedodd Jane O’Toole, Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ‘Mae’r Gymraeg yn iaith fyw, a dylid cefnogi plant i ddefnyddio’r iaith yn eu cymunedau. Mae ein cymuned o Glybiau Gofal Plant All-Ysgol yn cyrraedd cynulleidfa eang a fydd yn gallu rhannu neges Cymraeg 2050 â theuluoedd, gweithwyr chwarae, a’r gymuned ehangach’.
Fel rhan o CWLWM, mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi datblygu’r Addewid Cymraeg sydd wedi’i dylunio’n arbennig ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae; mae’r cynllun yn helpu lleoliadau i weithio tuag at allu darparu Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd O’Toole, ‘Mae chwarae, sef diwylliant plentyndod, yn gweithredu fel iaith gyffredinol sy’n uno plant o gefndiroedd ac anghenion amrywiol. Mae’r synergedd rhwng chwarae, dysgu a nod Cymraeg 2050 yn amlygu pwysigrwydd chwarae mewn datblygiad diwylliannol ac ieithyddol.’
Nodiadau:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Mae 7 nod llesiant cysylltiedig ar gyfer Cymru: Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau mwy cydlynol a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
- Dysgwch fwy am Glybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yma.
- Gall lleoliadau sy’n dymuno manteisio ar y cymorth y gallwn ei gynnig, neu ymholiadau gan y cyfryngau – gysylltu â Sophie Peppin.