Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol yn ymweld â Chlwb Gofal Plant All-Ysgol

Ym mis Medi, penodwyd Dawn Bowden AS yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, gyda chyfrifoldebau dros y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, cofrestru gwasanaethau, hawliau plant a diogelu, ymhlith eraill.

 

Gwahoddwyd y Gweinidog i brofi gwerth Clybiau All-Ysgol i blant, teuluoedd ac ysgolion, yn uniongyrchol drwy ymweld â chlwb sy’n aelod o Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn y Groes-Wen yn Ne Cymru. Darllenwch fwy am ymweliad y Gweinidog yma.

 

Ychydig cyn yr ymweliad, cafodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ochr yn ochr â phartneriaid Cwlwm, gyfle i gyfleu gwerth, cryfderau ac anghenion cymorth y sector Gofal Plant All-Ysgol.  Gyda diolch arbennig i’r clybiau hynny a ymatebodd i’n Harolwg Clybiau Cenedlaethol, a chan dynnu ar brofiadau’r rhai rydym yn gweithio gyda nhw, roeddem yn gallu bod yn llais i’r sector a thrafod:

  • manteision chwarae a Chlybiau y tu allan i oriau ysgol i blant, teuluoedd a chymunedau ac ystod eang o anghenion lles a chymorth plant a oedd yn cael eu diwallu trwy gyfleoedd chwarae a chymdeithasu o safon mewn clybiau;
  • Y Straen ariannol ar y sector;
  • Anghenion y gweithlu.

 

Diolch i bob un ohonoch sy’n dod yn aelodau, yn ymateb i arolygon ac yn ymgysylltu â ni mewn ffyrdd eraill, mwy anffurfiol.  Y sianelau hyn  yw’r ffyrdd y gallwn gyfathrebu eich cryfderu a’ch anghenion chi ar bob lefel drwy Gymru gyfan.