29.11.2024 |
Blwyddyn Newydd? Her Newydd? Rhowch hwb i’ch Taith Addewid Cymraeg!
Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hwn yn nod hirdymor, ac mae gan y sector Gofal Plant All-Ysgol rôl allweddol i’w chwarae i’w gyflawni.
Trwy ymrwymo i’r Addewid Cymraeg, bydd y lleoliadau’n gallu datblygu eu defnydd o’r iaith, a chreu amgylchedd lle mae’r Gymraeg yn rhan naturiol o’r hyn sydd ar gael i blant yn y lleoliad. Mae’r Addewid Cymraeg wedi cael ei gefnogi gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, a ddisgrifiodd hyn fel “ffordd i leoliadau osod camau clir, uchelgeisiol a hwyliog i rannu’r iaith Gymraeg gyda’u mynychwyr, eu staff a’u teuluoedd ehangach.”