15.11.2024 |
Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, RhCT, Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe
Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, mae gan Emma Wools gyfrifoldeb statudol i osod blaenoriaethau plismona o fewn Cynllun yr Heddlu a Throseddu (gallwch ddysgu mwy am Gomisiynydd yr Heddlu yma).
Yn ogystal â’r Cynllun Heddlu a Throsedd, yr ymgynghorwyd arno yn gynnar yn gynnar yn yr Hydref, mae Emma yn angerddol am sefydlu datrysiadau sy’n canolbwyntio ar blant ar gyfer ei blaenoriaethau plismona, drwy ddatblygu Cynllun yr Heddlu a Throseddu ar gyfer plant a phobl ifanc, sy’n adlewyrchu llais, anghenion, gwerthoedd, a phrofiadau plant a phobl ifanc yn ein hardal heddlu ni.
I gyflawni hyn, mae ar Emma angen eich help ac mae’n cysylltu â rhanddeiliaid allweddol sy’n gweithio’n uniongyrchol / wedi’u cysylltu â grwpiau sefydledig o blant a phobl ifanc hyd at 24 oed i geisio cael cymorth er mwyn hwyluso ymatebion i’n Harolwg Plant a Phobl Ifanc. Gall plant a phobl ifanc gwblhau’r arolwg eu hunain, neu gellir hwyluso ymateb grŵp gan y rhai sy’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.
Rydym am i’n harolwg adlewyrchu’r amrywiaeth sydd yn ein cymunedau. Os profwch rwystrau penodol rhag ymgysylltu â’ch grwpiau/cymuned, rhai yr hoffech eu trafod â’n swyddfa, cysylltwch â: engagement@south-wales.police.uk
Yn gywir,
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, De Cymru