Polisi’r wythnos – Cefnogi polisi iechyd meddwl da

Yn Hadnoddau Polisïau Clybiau yn Camu Allan mae gennym y Polisi Cefnogi Iechyd Meddwl Da.

 

Mae yn awr yn amser gwych i adolygu, diweddaru neu ddatblygu eich polisi Cefnogi Iechyd Meddwl Da eich hun. Gallech ddefnyddio ein templed i gefnogi ac addasu i weddu i’ch prosesau Clwb Gofal Plant All-Ysgol unigol a fydd hefyd yn eich galluogi i fyfyrio ar eich arferion eich hun.

 

 thymor y Nadolig yn agosau, mae’n bwysig cofio y gall hwn fod yn gyfnod anodd i lawer. Yn anffodus, i rai staff, plant a theuluoedd yr ydych yn eu cefnogi nid yw bob amser yn amser hapus o ddathlu Nadoligaidd ym mis Rhagfyr, felly mae’n bwysig sicrhau bod gennych brosesau yn eu lle i gefnogi un ac oll.

 

Mae’r polisi hwn yn sicrhau bod y clwb yn gwerthfawrogi lles corfforol a meddyliol eu gweithwyr a’r plant yn eu gofal, ac yn ymdrechu i greu lle cadarnhaol a diogel i bawb.

 

Canllaw cam-wrth-gam ar ysgrifennu Ceisiadau am Gyllid Grant – Clybiau Plant Cymru (CY)