Blaenoriaethu chwarae yn ystod y diwrnod ysgol | 11 Meh 2-3pm

Gan fod chwarae rhydd plant wedi cael ei erydu gan weithgareddau strwythuredig a threulio gormod o amser dan do (yn aml ar sgriniau), mae staff ysgolion a phlant o bob rhan o Abertawe a phlant yn cymryd rhan mewn ‘meddiannu’r maes chwarae’ rhwng 2pm a 3pm ar 11 Mehefin yn Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd. Nod hyn yw tynnu sylw at chwarae a’i gyfoeth o fanteision i blant ar y Diwrnod Chwarae Rhyngwladol cyntaf erioed.

Bydd plant o Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd yn cymryd drosodd y maes chwarae i gymryd rhan mewn chwarae sydd o ddiddordeb iddynt ac sy’n eu cyffroi, tra hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae yn ystod y diwrnod ysgol. Ac yn fwy na hynny, bydd hyn yn cael ei gymeradwyo a’i alluogi’n llawn gan eu hathrawon, hyfforddwyr Gwaith Chwarae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs a’r awdurdod lleol, a fydd ar gael i arsylwi, mwynhau a helpu os oes angen. Bydd amrywiaeth o adnoddau a fydd yn ysgogi dychymyg ac yn annog y plant i archwilio ac ymgysylltu â’u cyfoedion.

Rydym weithiau’n anghofio y gall chwarae syml, di-ymyrraeth, wedi ei hunan-gyfeirio, helpu ein plant i fod yn hapus, cael hwyl a gwneud ffrindiau, yn ogystal â meithrin gwytnwch, goresgyn poen meddwl a hybu iechyd corfforol (ac annog ymgysylltiad gydol oes â gweithgareddau corfforol). Mae sgiliau hefyd yn cael eu datblygu sy’n hanfodol ar gyfer ymgysylltu â bywyd ysgol a chyflawniad gydol oes[1].

Croesewir y manteision hyn, sy’n deillio mor hawdd, ond ddim yn aml yn cael eu blaenoriaethu, pan glywn straeon newyddion trallodus am iechyd corfforol a meddyliol plant yma’n dirywio.

Mae’n rhaid i ni i gyd wneud chwarae yn flaenoriaeth i blant. Nid oes angen iddo gostio unrhyw beth, nid oes angen unrhyw brops o reidrwydd (er bod rhannau rhydd fel cregyn, ffyn, cerrig mân yn ddelfrydol ac am ddim) ac mae’n rhywbeth y gallwn ni i gyd ei annog yn unrhyw le, unrhyw bryd, gyda llu o fuddion lles ac iechyd i’n plant.

Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu 11 Mehefin fel Diwrnod Rhyngwladol Chwarae i ddathlu a hyrwyddo hawl plant i chwarae a’r holl fanteision y mae hyn yn eu rhoi i blant ledled y byd. Ac mae’n addas dathlu yng Nghymru, gan mai hi oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar hawl plant i chwarae fel rhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau lleol ystyried hyn a hawliau eraill yn eu holl benderfyniadau a’u cynllunio.

Hefyd yn cymryd rhan yn y ‘meddiannu’r maes chwarae’ y mae amrywiaeth o ddysgwyr yn cychwyn ar yrfa Gwaith Chwarae wrth iddynt ymgymryd â’u cymhwyster Gwaith Chwarae a sicrhau y gall cenedlaethau o blant i ddod elwa o fanteision chwarae hen-ffasiwn, da.


Cyswllt: Jane O’Toole 

Rhestr o negeseuon allweddol: Pwysigrwydd chwarae ac oedolion dealltwriaeth a hwyluso

[1] Healthy childhood development through outdoor risky play: Navigating the balance with injury prevention | Canadian Paediatric Society (cps.ca)