19.08.2024 |
Ansawdd Gofal
Mae ein Hadnodd Ansawdd Gofal wedi’i ddiweddaru.
Mae’r canllawiau hyn yn erfyn gwych; fe’u datblygwyd gan Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant (CBDOs) ymroddedig, a ariennir drwy Sefydliad Cymunedol y Loteri Genedlaethol er mwyn rhoi Awgrymiadau Ardderchog i chi ar gyfer cwblhau Adolygiad Ansawdd Gofal cadarn.
Mae hyn yn un o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC), ac ar gyfer sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Cysylltwch â ni a gadewch i ni eich cefnogi ar eich taith Ansawdd Gofal.
Gallwn eich helpu i ddechrau adolygu eich Clwb trwy gwblhau Asesiad Gofal Plant All-Ysgol (AGPA)
Mynnwch wybod mwy yma.
Rydym yn helpu i ddatblygu eich Cynllun Gweithredu cychwynnol i’ch rhoi ar ben ffordd i Adolygu Ansawdd-Gofal yn barhaus.
Bydd sicrhau bod eich Clwb yn cael ei adolygu’n gyson yn eich cefnogi i ddatblygu
- Clwb a Lywodraethir yn dda
- Clwb Cynaliadwy
- Clwb o Ansawdd