Recriwtio aich Pwyllgor Rheoli Clwb Gofal Plant All-Ysgol

Mae’n bwysig recriwtio’n synhwyrol.  Bydd angen digon o aelodau arnoch i gynrychioli’ch aelodaeth gyfan, rhannu’r gwaith a gwneud penderfyniadau, ac mae angen iddynt fod â digon o sgiliau e.e. ariannol, rheoli staff, gofal plant a chwarae.

 

Pam recriwtio

  • I sicrhau cynrychiolaeth gymunedol
  • Ychwanegu sgiliau newydd
  • Cael aelodau i gymryd lle’r rhai sydd ar fin ymddeol

 

Pryd i recriwtio

  • Byddwch yn rhagweithiol
  • Darllenwch eich cyfansoddiad – mae rheolau ar niferoedd a phryd y dylai aelodau ymddeol
  • Gwnewch ddadansoddiad o’r bylchau sgiliau i weld yr anghenion

 

Sut i Recriwtio

  • Digwyddiadau cymunedol
  • Tudalennau cyfrwng-cymdeithasol y clwb neu gymuned
  • Llythyrau at fusnesau/sefydliadau/ grwpiau elusennol/ cynghorwyr lleol
  • Newyddlenni cymunedol / hysbysfyrddau
  • Noswaith hysbysu

 

Ystyriwch beth sy’n peri i bobl ymwneud. Byddai fideo cyfrwng-cymdeithasol, poster gan blant yn apelio am aelodau, a dyfyniadau gan aelodau presennol y pwyllgor yn bersonol ac yn rymus.

 

Sut i gynnwys plant mewn recriwtio

Gallai plant:

  • Lunio fideo cyfrwng-cymdeithasol neu boster i hysbysebu lleoedd gwag ar y pwyllgor.
  • Helpu gyda manyleb person i swydd.
  • Darparu 2/3 cwestiwn y gallech ofyn i ymgeiswyr neu ddyfeisio chwarae rôl ynghylch problem neu ddigwyddiad a gofyn sut y byddent yn ymateb.
  • Gallai plant hŷn (gydag arweiniad) fod ar banel cyfweld.

 

Pwy i’w recriwtio

  • Mae gan elusennau a chwmnïau reolau penodol ar bwy a all fod ar bwyllgorau.
  • Cynrychiolwyr sy’n adlewyrchu natur amrywiol eich cymuned.
  • Busnesau /sefydliadau/elusennau lleol
  • Gweithwyr proffesiynol lleol a allai lenwi angen o ran sgiliau.
  • Pobl wedi ymddeol.

 

I ddod yn fuan – 10 ffordd o recriwtio pobl i Bwyllgor Rheoli eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol