Diogelu’ch ymddiriedolwyr

Mae cyfrifoldeb ar bob elusen i sicrhau eu bod yn gweithio gyda phrosesau diogelu sydd ar waith.

 

Diogelu cronfeydd yr Elusen

 

Yng nghanllaw’r Comisiwn Elusennau ‘Yr Ymddiriedolwr Hanfodol: yr hyn y mae angen i chi ei wybod, a’i wneud’ CC3;

Nodir:

Y dylech ymddwyn yn gyfrifol, yn rhesymol ac yn onest. Gelwir hyn weithiau yn ddyletswydd pwyll. Mae pwyll yn ymwneud ag arfer crebwyll cadarn. Rhaid i chi a’ch cyd-ymddiriedolwyr:

  • sicrhau bod asedau’r elusen yn cael eu defnyddio yn unig i gefnogi neu gyflawni ei dibenion
  • osgoi gwneud asedau, buddiolwyr neu enw da’r elusen yn agored i risg gormodol
  • peidio â gor-ymrwymo’r elusen
  • cymryd gofal arbennig wrth fuddsoddi neu fenthyca
  • cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau ar wario arian neu werthu tir

Dylech chi a’ch cyd-ymddiriedolwyr roi gweithdrefnau a mesurau diogelu priodol ar waith a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod y rhain yn cael eu dilyn.

 

I wybod mwy

Adolygwch ein hadnodd 12-cam am gefnogaeth a chefnogaeth bellach.

Pecyn Croeso Ymddiriedolwyr Elusennau – Clybiau Plant Cymru (CY)