Mae Achos Siôn Corn yn ôl am Nadolig 2024!

Mae ymgyrch rhoddion a chodi arian Cyngor Bro Morgannwg, a elwir yn Achos Siôn Corn, yn ôl am flwyddyn arall. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn anelu at roi anrheg i bob person ifanc yn y Fro a allai, fel arall, fynd hebddo adeg y Nadolig. Dylai’r Nadolig fod yn amser o fwynhad a dathlu. Mae tîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn amcangyfrif y bydd, bob blwyddyn, cymaint â 1500 o blant y maent yn eu cefnogi yn debygol o beidio â chael dim byd ar eu cyfer adeg y Nadolig. Gall busnesau a sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi’r ymgyrch gysylltu â: santascause@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Darllen mwy