30.08.2024 |
Cefnogi Cymru Wrth-Hiliol mewn Clybiau All-Ysgol
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw creu Cymru sy’n wrth-hiliol erbyn 2030 i wneud newid cadarnhaol i fywydau plant o leiafrifoedd ethnig. Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi ymrwymo i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru lle gall pawb ffynnu a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Cwlwm, Llywodraeth Cymru ac yn cynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig i fireinio a datblygu camau gweithredu o fewn polisi gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru i gefnogi’r sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae. Os oes gennych ddiddordeb yn ein cefnogi ar y daith hon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I helpu, arwain a chefnogi eich datblygiad lleoliad-cyfan i fod yn sefydliad gwrth-hiliol, gallwch lawrlwytho’r pecyn cymorth ymarferol gwrth-hiliaeth ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes gofal plant, y blynyddoedd cynnar a chwarae yng Nghymru ar DARPL-Early-Years-Toolkit_ENGLISH.pdf
Gallwch hefyd ddarganfod mwy am e-ddysgu https://www.clybiauplantcymru.org/blog/darpl-bitesize-e-learning/