AGPA – erfyn Asesu Clybiau All-Ysgol – yn Cefnogi Llywodraethiad

Er mwyn tynnu sylw at feysydd o’ch Llywodraethiad fel Busnes Gofal Plant All-Ysgol y gellid eu cryfhau, mae gennym yr Erfyn Asesu Clwb Gofal Plant All-Ysgol.  Dyma ffordd wych o ddiogelu eich busnes drwy adolygu’r meysydd hyn:

  • Cyfreithiol / Rheoleiddio
  • Ariannol
  • Strwythur Cyfreithiol / Llywodraethu
  • Rheolaeth a Datblygiad Staff
  • Hyfforddiant ac Ansawdd
  • Marchnata a Hyrwyddo

 

Gellir cwblhau hyn yn hawdd ar eich porth aelodaeth ac mae ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant wrth law i gefnogi datblygiad cynllun gweithredu a fydd yn eich galluogi i gyrraedd targedau SMART os bydd angen datblygu pellach.

 

Mae gennym hefyd offer cefnogi ychwanegol y gellir eu defnyddio i adolygu gwasanaeth eich clwb ar y cyd â Swyddog Busnesau Gofal Plant neu Swyddog Hyfforddiant.

  • Gwiriad Iechyd Diogelu
  • Pecyn cymorth Gwrth Hiliaeth
  • Dadansoddiad Anghenion Marchnata
  • Dadansoddiad Anghenion Hyfforddiant
  • Gwiriad Iechyd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

 

Os hoffech chi gwblhau ein Hasesiad Clwb All-Ysgol (AGPA) cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant neu eich Swyddog Hyfforddiant am ragor o wybodaeth.

AGPA ar y Porth 2023