Arolwg o ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant yng Nghymru

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd, sy’n eithrio rhai darparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau yng Nghymru, rhag gorfod cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.

 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/EANZAY/

 

Mae’r arolwg hwn yn rhoi cyfle i’r rhai nad ydynt wedi cofrestru ag AGC ac sy’n cynnig gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant 0-12 oed yng Nghymru, lle nad yw’r rhiant neu’r prif ofalwr yn bresennol, i roi eu barn i gefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall:

  • pa fath o wasanaethau a chyfleoedd y maent yn eu cynnig i blant a theuluoedd yng Nghymru,
  • sut mae’r lleoliadau hyn yn gweithredu a pham eu bod yn gweithredu fel hyn,
  • pa bolisïau, gweithdrefnau ac o bosibl goruchwyliaeth sydd ar waith, ac,
  • sut mae’r lleoliadau hyn yn teimlo am gofrestru ag AGC.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau.

 

Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 8/11/24.

 

Os hoffech wneud unrhyw ymholiadau am yr arolwg, ein proses adolygu neu ddarparu gwybodaeth y credwch a fyddai’n ddefnyddiol, ond sydd heb ei chynnwys yn yr arolwg, e-bostiwch: Ymgynghoriad.GofalPlantAGwaithChwarae@llyw.cymru