Ddeall Cyfrifoldebau Pwyllgorau mewn Clybiau Plant

Beth yw pwyllgor rheoli gwirfoddol?

  • Grŵp o unigolion â chyfrifoldeb fel rheolwyr dros Glwb All-Ysgol, yn ateb cyfrifoldebau cyfreithiol ac yn gweithredu’n effeithiol ac yn unol â’ch dogfen lywodraethol.

 

Pam clybiau gofal plant all-ysgol wedi eu rheoli’n wirfoddol?

Gellir sefydlu clybiau mewn gwahanol ffyrdd. Mae clybiau a reolir yn wirfoddol:

  • Yn grymuso cymunedau i ddiwallu anghenion cymdeithasol – drwy alluogi plant i chwarae a chymunedau i ffynnu
  • Yn creu cyfleoedd cyflogi/gwirfoddoli/hyfforddi lleol
  • Â rhychwant eang o arbenigedd/cefndiroedd i sicrhau cynhwysiant, ansawdd a chynaliadwyedd
  • Yn ail-fuddsoddi elw
  • Yn gallu cael hyd i ariannu
  • Yn hwyluso hawl plant i chwarae A defnyddio adeiladau cymunedol

 

Beth yw cyfrifoldebau hanfodol pwyllgorau?

  • Penderfynu ar y nodau/amcanion.
  • Cynllunio ar gyfer y dyfodol.
  • Dyletswyddau a pholisïau cyfreithiol.
  • Rheoli arian er mwyn cael sefydlogrwydd ariannol.
  • Defnyddio asedau i gyrraedd nodau/amcanion.
  • Recriwtio a rheoli staff/gwirfoddolwyr. Bod yn gyflogwr cyfrifol.
  • Rheoli’r ddelwedd gyhoeddus a chynrychioli eich clwb.
  • Recriwtio a sefydlu aelodau newydd i’r pwyllgor.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd/cynhyrchiol, dilyn eich rheolau, ymddwyn â gofal/medrusrwydd rhesymol.

 

Gwybodaeth bellach

Mae gennym ddisgrifiadau swydd i rolau a swyddogion pwyllgorau: Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd.

Gall eich Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant eich helpu yn eich rôl.