05.08.2024 |
Gall defnyddio Chwarae helpu i gyflawni Cymraeg 2050 medd Clybiau Plant Cymru Kids’ Club
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddathliad bywiog o’r Gymraeg. Bob blwyddyn, mae’n dwyn ynghyd filoedd o gyfranogwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, gan arddangos cyfoeth diwylliant Cymru.
Yn Eistedfodd eleni, bydd Jane O’Toole, Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn ymuno â Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar newydd. O ystyried targed Cymraeg 2050, byddant yn tynnu sylw at y gwerth y gall Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ei ychwanegu a manteision chwarae.
Bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs hefyd yn cymryd rhan weithredol yn yr ŵyl eleni i ddathlu Diwrnod Chwarae, y diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae. Mae thema Diwrnod Chwarae eleni yn tynnu sylw at ddiwylliant cyfoethog a bywiog chwarae plant, gan bwysleisio bod chwarae yn rhan reddfol a hanfodol o ymddygiad dynol ar draws cenedlaethau a diwylliannau.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, “Mae chwarae, sef diwylliant plentyndod, yn gweithredu fel iaith fyd-eang sy’n uno plant o gefndiroedd ac anghenion amrywiol. Mae’r synergedd rhwng Diwrnod Chwarae, yr Eisteddfod Genedlaethol, a nod Cymraeg 2050 yn amlygu pwysigrwydd chwarae mewn datblygiad diwylliannol ac ieithyddol.” Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi ymrwymo i gyfrannu at y nodau hyn drwy eiriol dros chwarae a Gofal Plant y Tu Allan i’r Ysgol.
Un o uchafbwyntiau Diwrnod Chwarae eleni yw’r gweithgaredd “Dinas Cardbord,” lle mae plant yn dylunio ac yn adeiladu eu fersiynau eu hunain o’u byd a’u cymuned. Mae’r gweithgaredd hwn nid yn unig yn sbarduno creadigrwydd ond hefyd yn meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gymunedau a diwylliannau plant eraill.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ar flaen y gad o ran hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg drwy ei mentrau. Ers ennill y Cynnig Cymraeg, mae’r sefydliad wedi dyblu nifer y staff sy’n siarad Cymraeg, gan gefnogi clybiau yn well yn yr iaith o’u dewis. Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ‘Trwy ein prosiect CYMell a’r fenter, yr Addewid Cymraeg, mae’r sefydliad yn darparu hyfforddiant, adnoddau a chefnogaeth i wella ansawdd darpariaeth Gofal Plant All-Ysgol, gan hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.’
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn falch o arwain y ffordd yn y daith hon, gan sicrhau bod chwarae’n parhau i fod yn arf pwerus i feithrin diwylliant bywiog a iaith Gymraeg lewyrchus erbyn 2050.
Nodiadau:
- Yr Eisteddfod Genedlaethol yw gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop
- Mae strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn rhagweld “Cymru o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus.” Mae’r nod hwn yn seiliedig ar dair thema strategol:
- Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
- Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
- Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun.
- Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer iechyd, hapusrwydd a chreadigrwydd plant. Trwy chwarae:
- Mae plant yn datblygu ymdeimlad o ddiwylliant a gwerth
- Mae archwilio diwylliannol yn cael ei annog, gan feithrin gwerthfawrogiad o amrywiaeth
- Mae clybiau gofal plant all-ysgol yn rhedeg cyn ac ar ôl y diwrnod ysgol ac yn galluogi rhieni/gofalwyr i hyfforddi a gweithio, gan gefnogi cydbwysedd gwaith/bywyd ac amgylchiadau ariannol, gan eu helpu i gadw eu teuluoedd o afael tlodi, tra bydd eu plant yn chwarae.
Gofynnwn i ymholiadau gan y cyfryngau gysylltu â: Sophie Peppin, sophiep@clybiauplantcymru.org
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Ty’r Bont
Ffordd yr Orsaf
Llanisien
Caerdydd
CF14 5UW
Ebost: info@clybiauplantcymru.org
Ffôn: 029 2074 1000