Hyfforddwr Gweithgaredd – Camp Fantastic, Torfaen

Dyddiad cau: 30/09/2024

Oriau: 7.45yb – 5.15yh yn ystod gwyliau’r ysgol, Dydd Llun i Ddydd Gwener 

 Cyflog: £170.00 y diwrnod 

 Cymwysterau / profiad gofynnol:  Mae bod ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus yn hanfodol. Ffafrir NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae ar gyfer y rôl hon. 

 Disgrifiad o’r dyletswyddau: Rydym yn edrych am unigolion neu gwmnïau sy’n cynnig gweithgareddau arbenigol. Rydym yn eiddgar i barhau i gynnig rhestr amrywiol o weithgareddau yn Camp, wedi eu cyflwyno gan bobl a hyfforddwyd yn yr arbenigedd. Yn y gorffennol rydym wedi gweithio â phobl sy’n arbenigo mewn Origami, Gymnasteg, Celf Ymladd, Iaith Arwyddion, Ffensio, Celf, Dawns, Sioeau Cerdd a Thenis. Os teimlwch fod gennych wasanaeth ar gyfer plant 3 – 12 mlwydd oed,  rhowch wybod i ni. Gall hyn fod yn unrhyw beth o Wneud Pypedau i Grosio neu Galigraffeg i Lacrós. 

Byddai disgwyl ichi gyflwyno sesiynau ar wahân i wahanol grwpiau oed, a bydd aelod o’n staff yn bresennol i gefnogi.  

 Sut i ymgeisio: Am wybodaeth bellach gofynnir ichi gysylltu â lauren@campfantastic.co.uk 

 Lleoliad y swydd: NP20 6QB, Torfaen 

 

 Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 

 Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall. 

Back to Job Board