Cyfieithydd Iaith Gymraeg Cynorthwyol, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Dyddiad cau: 30/09/2024

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn dymuno penodi Cyfieithydd Iaith Gymraeg Cynorthwyol (16 awr) i’w leoli yn un o’n  swyddi rhanbarthol, Cardydd, Cross Hands neu Fae Colwyn; mae cytundeb gweithio ystwyth yn ei le.

Mae’r  cyflog o £24,496 yn ôl y  gyfradd (£26,421 yn ôl y gyfradd ar dderbyn cadarnhad mewn swydd) wedi ei seilio ar wythnos 37-awr, yn daladwy’n fisol drwy drosglwyddiad credyd. Mae oriau hyblyg yn ofynnol i’r swydd hon, a gallai gynnwys nosweithiau, penwythnosau a nosau achlysurol oddi cartref. Mae 28 diwrnod o wyliau yn ôl y gyfradd ynghyd â gwyliau cyhoeddus.  Rhed y flwyddyn wyliau o 1 Medi i 31 Awst.

Arweinir y Tîm Gweinyddol gan yr Uwch Weinyddwyr.  Rhestrir prif gyfrifoldebau Cyfieithydd Cynorthwyol y Gymraeg yn y meini prawf gwerthuso. Bydd angen dealltwriaeth o becynnau Windows a Microsoft gan gynnwys Word, Excel, Outlook, Teams a Access a byddwch yn barod i ddysgu am becynnau meddalwedd a systemau monitro ar-lein newydd a’u defnyddio.

Prif ffocws y rôl yw cefnogi’r gwaith o gyfieithu holl lenyddiaeth y cwmni, gan gynnwys llythyrau, ffurflenni, ceisiadau grant, gwybodaeth gwefan, erthyglau cylchlythyr, taflenni, cyhoeddiadau, cynnwys cyfryngau cymdeithasol ac ati o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac o’r Gymraeg i’r Saesneg os yn berthnasol. . Rhaid i’r ymgeisydd feddu ar lefel uchel o gywirdeb, a rhoi sylw manwl i fanylion. Bydd prawfddarllen hefyd yn rhan o’r rôl hon.

Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymagwedd hyblyg at waith a gallu addasu i bwysau, terfynau amser a llwythi gwaith amrywiol. Rydym yn ceisio cyflogi unigolyn sy’n awyddus i ddysgu a chyflawni ei botensial drwy ddatblygu i fodloni’r manylion a nodir yn y meini prawf gwerthuso. Byddwn yn gweithio gyda’r unigolyn i ddeall ac i fodloni gofynion y rôl, i barhau â’i ddatblygiad proffesiynol ac i dyfu gyda’r tîm a’r sefydliad.

Mae pob gweithiwr yn chwarae rhan hanfodol  yn hyrwyddiad cynllun strategol y sefydliad.

Os ydych yn awyddus i ymuno â’n tîm; yn flaengar, brwdfrydig, egnïol, a hyblyg yn eich agwedd at waith, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.

I gael Pecyn Cais Cymraeg cliciwch yma

I gael Pecyn Cais Saesneg cliciwch yma

** Mae pob cynnig o gyflogaeth yn amodol ar eirda boddhaol a chyfnod prawf o chwe mis. 

Back to Job Board