Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar – Ysgol Chwarae Craig-y-Don, Conwy

Dyddiad cau: 06/11/2024

Rydym yn chwilio am Ymarferydd Gofal Plant Lefel 3 ymroddedig a meithringar i greu amgylchedd diogel, deniadol ac addysgol i blant. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol angerdd am weithio gyda phlant ifanc a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol â phlant a’u teuluoedd. Mae’r rôl hon yn gofyn am brofiad mewn lleoliadau gofal plant, yn enwedig gydag addysg plentyndod cynnar, a’r gallu i reoli gweithgareddau amrywiol sy’n hybu datblygiad plant. 

Bydd gofyn ichi: 

  • Goruchwylio a chynnwys plant mewn gweithgareddau sy’n briodol i’w hoedran sy’n meithrin dysgu a datblygiad. 
  • Cyfathrebu’n effeithiol gyda rhieni ynglŷn â chynnydd eu plentyn ac unrhyw bryderon. 
  • Cynllunio a gweithredu rhaglenni addysgol sy’n cyd-fynd â safonau addysg plentyndod cynnar. 
  • Cynnal amgylchedd cyn-ysgol glân, diogel a threfnus. 
  • Rheoli arferion dyddiol gan gynnwys prydau bwyd, cysgu ac amser chwarae. 
  • Cynorthwyo cydweithwyr i ddatblygu a chynnal perthynas dda ag ysgolion lleol, rhieni a’r gymuned 
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch o fewn y lleoliad gofal plant. 

Bydd arnoch angen:  

  • Sgiliau cyfathrebu cryf i ryngweithio’n gadarnhaol gyda phlant a rhieni. 
  • Profiad o weithio gyda phlant mewn meithrinfa neu leoliad tebyg. 
  • Gwybodaeth am egwyddorion ac arferion addysg plentyndod cynnar. 
  • Rhinweddau arweinyddiaeth i ennyn hyder plant a chydweithwyr. 
  • Mae’r Gymraeg yn ddewisol ond nid yn ddymunol. 
  • Sgiliau trefnu cryf i reoli tasgau lluosog yn effeithlon. 
  • Angerdd gwirioneddol dros ofal plant a lles plant ifanc 

Oriau: 20 yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener, yn ystod y tymor a gwyliau’r ysgol. 

Cyflog: I’w gadarnhau  

Sut i ymgeisio: Gofynnir ichi  ymgeisio trwy anfon ebost i craigydonplayschool@gmail.co.uk. 

Cynhwyswch eich C.V. os gwelwch  yn dda, gan roi eich hanes cyflogaeth lawn a llenwi yn achos unrhyw adegau pan nad oeddech wedi’ch cyflogi, ac mewn llythyr cyflwyno dywedwch wrthym pam mai chi yw’r person i’r swydd hon.   

Lleoliad y swydd: LL30 1TE 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 

 Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall. 

Back to Job Board