14/09/2023 |
Gweithiwr Chwarae – Gofal Plant Sirol, Glan Llyn, Casnewydd
Dyddiad cau: 30/10/2023
Oriau wythnosol a gontractir: 12.5 awr yr wythnos
Dyddiau gwaith: Dydd Llun – Dydd Gwener
Oriau i’w gweithio: Yn ystod y tymor, ar ôl oriau ysgol
Cyflog: £10.75 yr awr
Cymwysterau/profiad gofynnol:
Yn ddelfrydol, rydym yn awyddus i benodi rhywun â chymhwyster Gwaith Chwarae ond gallwn gynnig hyfforddiant yn y swydd i ymgeiswyr llwyddiannus.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu plant a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd [GDG] (y telir amdano gennym ni).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn tîm bychan yn darparu gofal clwb ar ôl ysgol.
Mae’r dyletswyddau dyddiol yn cynnwys:
- Sicrhau bod yr holl blant yn y grŵp yn cael gofal da a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.
- Helpu i baratoi byrbryd.
- Iechyd a Diogelwch Cyffredinol.
- Diogelu plant a staff.
- Chwarae gyda’r plant a sicrhau eu bod yn mwynhau eu hamser gyda ni.
Lleoliad y swydd: Ysgol Gynradd Glan Llyn NP19 4EB
Sut i ymgeisio: Anfonwch eost atom drwy countychildcareglanllyn@gmail.com
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall.