Gweithiwr Chwarae – Clwb Cymer Ofal, Caerdydd

Dyddiad cau: 31/08/2024

Oriau: 6 – 16 awr yr wythnos yn ystod tymhorau’r ysgol

Cyflog: £12 yr awr

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, caredig i ymuno a ni yn ein clybiau ar-ôl ysgol yn Ysgol Treganna ac Ysgol Hamadryad o fis Medi 2024.

Fe fyddwch yn cynorthwyo’r rheolwyr i gynllunio gweithgareddau’r clwb o ddydd i ddydd. Mae’r clwb yn gofalu am hyd at 80 o blant y noson yng Nghlwb Treganna a 48 yng Nghlwn Hamadryad, rhwng 4 ac 11 mlwydd oed. Rydym yn dilyn y brif egwyddorion chwarae yng nghlybiau Cymer Ofal, gyda’r plant yn penderfynu ar ac yn arwain y chwarae. Fe fyddwch yn gweithio fel rhan o staff y clwb i gynnig celf a chrefft, gemau a gweithgareddau, yn dilyn diddordebau’r plant.

Fe fydd angen i chi siarad Cymraeg yn hyderus.

Mae cymhwyster chwarae plant yn ddymunol ond nid yn angenrheidiol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch  clwb@cymerofal.co.uk

 Lleoliad y swydd: Caerdydd, CF11 8DG

                                     

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran ei Aelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb ac ymwneud yn uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac ychwaith am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw gyfundrefn arall. 

Back to Job Board