Bro Morgannwg – Achos Sion Corn

Mae Achos Siôn Corn yn dychwelyd ar gyfer Nadolig 2024!

Nod y digwyddiad blynyddol hwn yw rhoi anrheg i bob person ifanc yn y Fro a allai fel arall fod hebddo y Nadolig hwn.

Dylai’r Nadolig fod yn gyfnod o hapusrwydd a dathlu. Yn anffodus, i lawer o deuluoedd, gall fod yn un o straen mawr, pryder, a thristwch.

Mae tîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn amcangyfrif bod cymaint â 1500 o blant y maent yn eu cefnogi bob blwyddyn yn debygol o gael dim yn aros amdanynt ar Ddydd Nadolig.

Eleni, mae’r Cyngor yn galw am gefnogaeth yn ymgyrch Siôn Corn eto.

 

Darllen mwy